Mae After and Before yn ffocysu ar ddiddordeb Richard Higlett mewn syniadau ac ysgrifau y Gwyddel hollddysgedig J.W. Dunne.
Mewn nifer o bapurau, ac wedi’ chadarnhau yn An Experiment With Time (1927) a The Serial Universe (1934) mae Dunne yn trafod y syniad fod amser ddim yn unllin a fod breddwydion yn ddarnau o’r dyfodol. Mae gwaith Dunne yn debyg I theorïau ffiseg cwantwm ac yn awgrymu fedrwn deithio yn feddyliol i wahanol fannau o amser a bod yno’n gorfforol. Mae syniadau Dunne wedi dylanwadu ar ddiwylliant poblogaidd fel Bid Time Return (1975) nofel gan Richard Matheson sydd wedi ei thrawsnewid i ffilm or enw Somewhere In Time (1980) ac hefyd y ffilm Arrival (2016) a oedd yn seliedig ar The Story of Your Life gan Ted Chiang. Mae’r agwedd yma at deithio mewn amser a chanfyddiad yn cael ei gyfeirio yn rhy uniongyrchol mewn testun yn y gofod sy’n awgrymu ei fod yn lungopi o gylchgrawn sydd eto i’w gyhoeddi.
Fel gweithgaredd, bydd yr oriel yn cynnwys 20 darlun heb ei hongian mewn pentyrau yn erbyn y waliau. Maent yn aros i’r gwyliwr i hongian a churadu’r arddangosfa eu hunain. Unwaith maent i fyny ar y waliau a’r foment wedi’ chydnabod, mae’r darluniau yn cael eu dychwelyd yn ôl i’r pentwr ac yn cael eu ailgymysgu. Y canlyniad yw arddangosfa sy’n llifo tra mae gosodiad a chyflwyniad yn dod yn broses gylchol gyda chanlyniad bwrpasol fyr a’r syniad bod unrhywbeth wedi’ orffen neu wedi ei benderfynu yn cael ei gwestiynu.
Mae’r 20 darlun unlliw yn cyfeirio at liwiau cymedrig cromatig y planedau a lleuadau yng nghyfundrefn yr haul. Mae hyn yn awgrymu bod trefn i’r gwirionedd ddisymyd am eu bod gwahanol pellteroedd o’r haul. Trwy beidio datgelu trefn y darluniau, mae’r system yn cael ei bendefynu gan y gwyliwr ac mae barn yn cymryd lle tystiolaeth ffeithiol.
Mae gan Higlett hefyd ddiddordeb yn lleoliad Arcadecardiff, mewn rhodfa siopa ac yn gweld y sioe fel prop neu ddynwarediad o arddangosfa, fel mae siopau cyfagos yn newid eu arddangosfeydd.
Ynghyd a After and Before, bydd Higlett yn creu fersiwn lawrlwytho am ddim, gwynebfath digidol yn seiliedig ar ronynnau o lwch a baw.
Pan mae’r oriel ar gau mi fydd yn dogfennu sioeau eraill, gwaith eraill y gallai wedi arddangos yn lle. Bydd y Sideshow yma yn cael ei ddogfennu ar lein yn unig.
Bydd sgwrs i drafod syniadau tu ôl i’r gosodiad yn cael ei gynal am 2pm Dydd Sul 26ain o Fawrth, diwrnod ar ol i’r arddagosfa orffen ac yn ystod y dadosodiad.